Yr Athro Chris Williams

Robert Owen: Wales’s Greatest Radical Thinker

Roedd Robert Owen (1771-1858) yn arloeswr yn y byd cydweithredol a'r fenter gymdeithasol. Roedd yn enedigol o'r Drenewydd, ac mi wnaeth enw da iddo'i hun mewn busnes yn niwydiant cotwm Manceinion cyn mynd rhagddo i rheoli melinau New Lanark yn yr Alban ym 1800. Roedd ganddo weledigaeth ac roedd yn ddyngarol ei fryd. Daeth cymuned ddiwydiannol ddelfrydol Owen ar lannau Afon Clud yn adnabyddus yn fyd-eang a bu'n ysbrydoliaeth iddo ysgrifennu beirniadaeth o gyfalafiaeth a disgrifio 'A New View of Society'. Yn sgil hynny bu ef a'i ddilynwyr yn canlyn hyn mewn aneddiadau iwtopaidd yn yr Unol Daleithiau a led led Ynysoedd Prydain. Bu syniadau Owen yn sail i dwf yr undebau llafur a'r mudiad cydweithredol ym Mhrydain o'r 1830au ymlaen. I'r AS Rhyddfrydol o Gymro, Tom Ellis, Robert Owen oedd 'lladmerydd Neges Cymru i'r byd'.

 

Bywgraffiad

Mae'r Athro Chris Williams yn hanesydd ac yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddorau Cymdeithas yng Ngholeg y Brifysgol Cork.

Darllenodd Chris Hanes Modern yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gan raddio yn 1985, cyn ennill doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd Hanes Prydain yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd yn 1988 a bu'n darlithio yno tan 2001. Rhwng 2001 a 2004 bu'n Athro Cymru Fodern a Chyfoes ym Mhrifysgol Morgannwg, ac o 2005 i 2013 yn Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn 2013 dychwelodd i Brifysgol Caerdydd fel Athro Hanes a Phennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, gan ddechrau yn ei swydd bresennol yng Ngholeg y Brifysgol Cork yn 2017.

Mae ymchwil Chris yn canolbwyntio ar hanes cartwnau gwleidyddol a gwawdluniau gwleidyddol ym Mhrydain o'r Chwyldro Ffrengig hyd at yr Ail Ryfel Byd. Mae hefyd yn gweithio ar hanes cymdeithasol a gwleidyddol Casnewydd, De Cymru, o ddiwedd y ddeunawfed ganrif tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.