Adroddiad
Bu Gŵyl Hanes y Pedair Gwlad a gynhaliwyd am y tro cyntaf gan Brifysgol Bangor yn llwyddiant ysgubol gyda myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned yn mwynhau deuddydd o sgyrsiau'n gysylltiedig â hanes yn Pontio ac Eglwys Gadeiriol Bangor.
Gwrandawodd y gynulleidfa ar sgyrsiau am amrywiaeth o bynciau dros y ddau ddiwrnod, a gwerthwyd pob tocyn i weld y prif ddarlithoedd gan yr haneswyr enwog sy'n ymddangos yn rheolaidd ar y BBC sef David Olusoga, David Starkey a Lucy Worsley. Cafodd y gynulleidfa gyfle hefyd i siarad â grwpiau hanes lleol a chenedlaethol i ddysgu am eu projectau ym man arddangos yr ŵyl.
Roeddem yn falch iawn o groesawu myfyrwyr ysgolion uwchradd lleol i rai o'r darlithoedd ac ymweld â'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas lle gwnaethant ddysgu mwy am y gwaith academaidd a wneir yno. Cafodd myfyrwyr ysgolion cynradd gyfle i weld sioe gan y cwmni drama 'Mewn Cymeriad' am Owain Glyndŵr yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Dyma ychydig o luniau o'r penwythnos.
Roedd yn ddigwyddiad gwych a gobeithiwn y gallwch ymuno â ni y tro nesaf!