Arddangosfeydd

Arddangoswyr

  • Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Palas Print
  • Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
  • Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
  • Archif Menywod Cymru
  • Storiel
  • Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes Prifysgol Bangor

 

Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Bydd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cymeryd rhan yng Ngŵyl Hanes y Pedair Gwlad ym Mhrifysgol Bangor fis Hydref drwy gynnal Dydd Agored. Bydd y digwyddiad poblogaidd yma ar agor i bawb, ac yn gyfle i unrhyw un gyda diddordeb i weld rhai o’n llawysgrifau, archifau a llyfrau prin a chael sgwrs gyda’r staff mewn awyrgylch anffurfiol.

Cynhelir y digwyddiad yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ar ddydd Gwener y 25ain o Hydref, rhwng 11.30yb a 3.30yh, a bydd y pynciau a amlygir eleni yn cynnwys :

  • Trysorau printiedig: uchafbwyntiau o’r casgliad llyfrau prin

  • A Hard Day’s Night: bywyd a gwaith yr actor a’r dramodydd, Alun Owen

  • Mapiwyr medrus: detholiad o fapiau ac arolygon o’n casgliadau stadau

  • Hanesydd lleol: golwg ar gasgliad R.T. Pritchard ar hanes Bangor

  • Lleisiau myfyrwyr: cyfle i bori drwy rai o gylchgronnau myfyrwyr

 

Storiel

I gyd-fynd gyda Gŵyl Hanes y Pediar Gwlad, mae Amgueddfa Storiel yn cynnal arddangosfa arbenning "Victoria in Storiel".

Mae un o ffrogiau'r Frenhines Victoria o'r 1800au hwyr, chemise, cyffiau, het a ffrog babanod y Frenhines Victoria i'w weld ac mae ffrog briodas o'r cyfnod Fictoraidd, gemwaith ac atelogion, esgidiau a siolau paisley yn cael eu harddangos hefyd.

Mae'r amgueddfa wedi ei lleoli gyferbyn a Phontio ar Ffordd Deiniol.