Lleoliad

Cynhelir yr Ŵyl Hanes Y Pedair Gwlad yn Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio

Cyfarwyddiadau

Cyfeiriad: Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ

Ar drên

Gellir cerdded o Orsaf Reilffordd Bangor i Brif Adeilad y Celfyddydau mewn tua 10 munud.  Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn galw ym Mangor o orsafoedd ar hyd Arfordir Gogledd Cymru, Caer, Manceinion, Caerdydd, Birmingham a Llundain. Cliciwch yma i gynllunio eich taith.

Ar Fws

Gorsaf Fysus Cloc Bangor yw’r arhosfa fysus agosaf, rhyw 10 munud o daith gerdded o Bontio. Amseroedd bws diweddaraf.

Mewn car

Os ydych chi’n teithio o’r dwyrain (Llandudno, Caer, Lerpwl, Manceinion), dylech adael yr A55 ar Gyffordd 11, gan ddilyn arwyddion am yr A5 / ‘Bangor/Betws-y-Coed’. O gyfeiriad y gorllewin (yn teithio o Ynys Môn), defnyddiwch Gyffordd 9, gan ddilyn arwyddion am yr A487 ‘Bangor/Caernarfon’. Yn y ddau achos, bydd gennych wedyn ryw 3.5 milltir i fynd cyn cyrraedd Bangor. Os ydych chi’n teithio o’r de, dilynwch yr A487, ac arwyddion i Gaernarfon/Bangor. Mae gwybodaeth ar maesydd parcio ar gael yma.

Ar awyren

Meysydd awyr rhyngwladol John Lennon Lerpwl a  Manceinion yw’r rhai agosaf.

Ar y Môr

Caergybi, ar Ynys Môn, yw’r porthladd agosaf, tua 25 milltir o Fangor ar yr A55.  Mae gwasanaethau fferi ar gael gan Irish Ferries a Stena Line, yn teithio rhwng Porthladd Dulyn a Chaergybi.

Bwyd

Llefydd i fwyta ym Mangor.