Siaradwyr Gwadd
GWERTHU ALLAN!
David Starkey CBE
HENRY VIII: THE FIRST BREXITEER?
Dydd Gwener, 25 Hydref 2019
7pm, Theatr Bryn Terfel
Mae Harri VIII megis cawr yn rhychwantu hanes ein gwlad. Fo ddyfeisiodd y syniad o natur unigryw Prydain; yn wir, gellid dweud mai’r Diwygiad Protestannaidd oedd y Brexit cyntaf, a’i weinidogion yntau a ddyfeisiodd athrawiaeth sofraniaeth y senedd. Yn y sgwrs hon bydd David Starkey yn tynnu ar ei wybodaeth unigryw o deyrnasiad Harri i archwilio ei fywyd personol cythryblus, a oedd yn gosod crefydd yn erbyn gwleidyddiaeth yn y modd creulonaf megis Isis yn ein hoes ni, hyd at y Twristiaid Mawreddog a oedd yn prynu diwylliant Ewropeaidd gydag arian Prydeinig, a’r cyfan yn ennyn cymariaethau â sefyllfa Brexit sydd ar ein gwarthaf heddiw.
Mae David Starkey CBE yn hanesydd cyfansoddiadol ac yn gyflwynydd radio a theledu adnabyddus. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan arbenigo yn hanes y Tuduriaid. O Gaergrawnt, aeth i’r London School of Economics lle bu’n ddarlithydd hanes hyd 1998.
Mae wedi cyflwyno nifer o raglenni dogfen hanes, yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ym 1977. Mae ei raglenni dogfen teledu yn cynnwys The Six Wives of Henry VIII, David Starkey’s Magna Carta a Monarchy by David Starkey. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am y Tuduriaid, yn cynnwys Henry: Model of a Tyrant, Magna Carta: The True Story Behind the Charter a Monarchy: From the Middles Ages to Modernity. Mae hefyd wedi gweithio fel curadur ar sawl arddangosfa, gan gynnwys un yn 2003 ar Elizabeth I.
Ym 1984 etholwyd Starkey yn gymrawd y Royal Historical Society ac ym 1994 yn gymrawd y Society of Antiquaries of London. Mae hefyd wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan ei goleg yng Nghaergrawnt, Coleg Fitzwilliam.
Derbyniodd Starkey CBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2007 am wasanaeth i hanes.
GWERTHU ALLAN!
Lucy Worsley OBE
QUEEN VICTORIA: DAUGHTER, WIFE, MOTHER, WIDOW
Dydd Sadwrn, 26 Hydref 2019
7pm, Pontio PL5
Y Frenhines Fictoria: hen wraig fach, yn grwn ei chorffolaeth, yn gwisgo dillad du, yn flin drwy’r amser. Onid e? Mae’r hanesydd Lucy Worsley am i chi ailfeddwl. Dyma wraig gymhleth, anghyson, a gafodd blentyndod anodd, a oedd wrth ei bodd yn dawnsio, a ddioddefodd drychinebau a phrofedigaethau, a dod drwyddi’n hen wraig ecsentrig, rymus a gwych braidd. Bydd sgwrs a darluniau Lucy yn eich tywys drwy ei bywyd, y palasau, ac oes liwgar a bras dynes a oedd yn teyrnasu dros chwarter y byd.
Mae Lucy Worsley yn hanesydd, awdur, curadur a chyflwynydd teledu.
Dechreuodd Lucy ei gyrfa fel arweinydd teithiau yn Milton Manor yn Swydd Rhydychen, cyn mynd i weithio i’r Protection of Ancient Buildings ac yna i English Heritage. Mae hi bellach yn brif guradur yn Historic Royal Palaces, yr elusen annibynnol sy’n gyfrifol am gynnal a chadw Tŵr Llundain, Hampton Court Palace, Kensington Palace State Apartments, y Banqueting House yn Whitehall a Kew Palace yn Kew Gardens. Astudiodd Hanes Hynafol a Modern yng Ngholeg Newydd, Rhydychen, ac mae ganddi PhD mewn Hanes Celf o Brifysgol Sussex.
Mae Lucy yn gyflwynydd adnabyddus ar gyfresi teledu’r BBC ar bynciau hanesyddol, gan gynnwysElegance and Decadence: The Age of the Regency (2011), Harlots, Housewives and Heroines: A 17th Century History for Girls (2012), The First Georgians: The German Kings Who Made Britain (2014), A Very British Romance (2015), Lucy Worsley: Mozart’s London Odyssey (2016), a Six Wives with Lucy Worsley (2016). Yn 2019, cyflwynodd LucyAmerican History’s Biggest Fibs a Queen Victoria: My Musical Britain.
Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwysA Very British Murder, yn seiliedig ar ei chyfres deledu, Jane Austen at Home a Queen Victoria: Daughter, Wife, Mother, Widow. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau ffuglen i oedolion ifanc a phlant.
Ym mis Gorffennaf 2015, cafodd DLitt er anrhydedd gan Brifysgol Sussex a derbyniodd OBE am wasanaethau i Hanes ac i Dreftadaeth yn y rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2018.
GWERTHU ALLAN!
Yr Athro David Olusoga OBE
SLAVERY, EMPIRE AND HISTORICAL AMNESIA
Dydd Gwener, 25 Hydref 2019
10am, Theatr Bryn Terfel
Mae David Olusoga yn hanesydd Prydeinig-Nigeriaidd, mae’n ddarlledwr a gwneuthurwr ffilmiau, sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Ganwyd yn Lagos, Nigeria, a mudodd David a’i fam i Brydain pan oedd yn bum mlwydd oed. Astudiodd ym Mhrifysgol Lerpwl ac ar hyn o bryd mae’n Athro Hanes Cyhoeddus ym Mhrifysgol Manceinion.
Un o haneswyr mwyaf blaenllaw Prydain, mae llyfrau a rhaglenni teledu David wedi trafod themâu’n ymwneud â’r ymerodraeth, hanes milwrol, hil, caethwasiaeth a diwylliant cyfoes ym Mhrydain ac yn UDA.
Mae ei gyfresi teledu ddiweddaraf yn cynnwysBlack and British: A Forgotten History (BBC 2), The World’s War (BBC 2), A House Through Time (BBC 2) a Britain’s Forgotten Slave Owners (BBC 2), a enillodd wobr BAFTA. Mae hefyd yn un o dri chyflwynydd cyfres nodedig BBC Civilisations gyda Mary Beard a Simon Schama.
David hefyd yw awdurBlack & British: A Forgotten History, sy’n adrodd hanes difyr a dadlennol y berthynas hir rhwng Ynysoedd Prydain a phobl Affrica a’r Caribî. Enillodd y llyfr y Longman-History Today Trustees Award a’r PEN Hessell-Tiltman Prize. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys The World’s War, which won First World War Book of the Year in 2015, The Kaiser’s Holocaust: Germany’s Forgotten Genocide and the Colonial Roots of Nazism a Civilizations: Encounters and the Cult of Progress.
Roedd David yn un o gyfrannwyr yrOxford Companion to Black British History. Mae’n ysgrifennu i’r Guardian ac mae’n golofnydd i’r Observer a’r BBC History Magazine. Derbyniodd OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2019 am ei wasanaeth i hanes ac integreiddio cymunedol.