Gŵyl Hanes y Pedair Gwlad

Archwilio Hanesion Arbennig Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr

Dydd Gwener 25 Hydref 2019 – Dydd Sadwrn 26 Hydref 2019

Pontio, Prifysgol Bangor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r haneswyr David Starkey, Lucy Worsley a David Olusoga fydd y siaradwyr gwadd yng Ngŵyl gyntaf Hanes y Pedair Cenedl sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor ar y 25–26ain o Hydref, 2019.

Dan arweiniad Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol, mae'r ŵyl yn ddigwyddiad cymunedol, a fydd yn cynnwys amgueddfa Storiel, Eglwys Gadeiriol hanesyddol Bangor a sefydliadau treftadaeth a thwristiaeth amrywiol. Bydd yr ŵyl yn gyfle i edrych yn fanylach ar hanes cyffredin a neilltuol Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru. Bydd ysgolheigion profiadol a rhai ar ddechrau eu gyrfa yn dod at ei gilydd i edrych ar hanes diddorol ac amlweddog y maes hwn.

Mae David Starkey CBE yn hanesydd cyfansoddiadol sydd wedi ysgrifennu dros 20 llyfr ac sydd wedi cyflwyno nifer o raglenni ar y teledu ac ar y radio. Lucy Worsley OBE yw Cyd Brif Guradur y Palasau Hanesyddol Brenhinol ac mae hi hefyd yn cyflwyno rhalenni hanes megis The First Georgians: The German Kings Who Made Britain (2014) a Six Wives with Lucy Worsley (2016). Mae David Olusoga OBE yn hanesydd, darlledwr ac yn wneuthurwr ffilmiau sy’n Athro Hanes Cyhoeddus ym Mhrifysgol Manceinion.

I gofrestru eich presenoldeb i’r rhaglen lawn, anfonwch e-bost at fournations@bangor.ac.uk. Dywedwch wrthym faint sydd yn eich parti a pha ddyddiau rydych chi’n bwriadu eu mynychu, naill ai: Y ddau ddiwrnod neu ddydd Gwener yn unig neu ddydd Sadwrn yn unig. Byddwn yn cadarnhau eich cofrestriad.

Mae tocynnau ar gyfer darlithoedd David Olusoga, David Starkey a Lucy Worsley ar gael ar wahân yn pontio.co.uk

Mae’r ŵyl wedi ei noddi gan Waddol Tom a Raj Parry Jones.