Yr Athro Gruffydd Aled Williams

Cafodd yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams ei fagu yng Nglyndyfrdwy yn yr hen sir Feirionnydd, yr ardal lle lleolwyd un o ystadau Owain Glyndŵr ac a roddodd ei enw iddo.  Bu’n darlithio yn Nulyn a Bangor cyn cael ei benodi yn 1995 yn Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. 

Ers ymddeol yn 2008 mae llawer o'i ymchwil wedi canolbwyntio ar Owain Glyndŵr.  Traddododd Ddarlith Goffa Syr John Rhŷs yr Academi Brydeinig 2010 ar farddoniaeth ganoloesol sy'n gysylltiedig â Glyndŵr, a rhoddwyd gwobr am y ffuglen greadigol Gymraeg orau i Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr (2015) yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2016 (cyhoeddwyd y gwaith hwn yn Saesneg fel The Last Days of Owain Glyndŵr yn 2017). 

Mae'r Athro Williams yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Llywydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd.