John Keay

Everest; the Welshman for whom the Mountain was Named

Cafodd mynydd uchaf y byd ei enwi ar ôl swyddog yn y fyddin nad oedd yn galw ei hun yn Everest,  prin yr oedd yn cydnabod ei Gymreictod, ac ni welodd y mynydd erioed. Ond mae'r enw wedi parhau. Bu'r Cyrnol George Everest, a oedd yn ddyn cwerylgar, yn creu mapiau am  ddau ddegawd ar draws wastadeddau crasboeth India, ac ef a gwnaeth hi'n bosibl i bron pob copa rhewog o'r Himalaia Fawr gael eu mesur. Yn ei lyfr mae John Keay yn trafod dyn a gafodd ei gamddeall yn ddirfawr ac a gyflawnodd gamp a newidiodd y byd.             

 

Bywgraffiad

Mae John Keay wedi bod yn ysgrifennu am India ers dros ddeugain mlynedd. Mae His India: A History (2000, 2010) yn adroddiad naratif safonol am orffennol De Asia, ac mae India Discovered (1981 ac yn dal mewn print) wedi ysbrydoli cenhedlaeth o ymchwil i sut yr ail-luniwyd gorffennol clasurol India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ei lyfr The Honourable Company (1991), sef cipolwg ar hanes yr English East India Company, yn dal i fod mewn print. Mae'n byw yn yr Alban. Cyhoeddwyd ei lyfr The Great Arc: The Dramatic Tale of how India was Mapped and Everest was Named yn 2000. Mae ei lyfr diweddaraf yn ymchwiliad bywgraffiadol diddorol - The Tartan Turban: In Search of Alexander Gardner (2017).