Leona Huey

Frongoch: Internment and Rebellion in the Heart of North Wales:

Yng ngwersyll carchar Fron-goch carcharwyd gwrthryfelwyr Gwyddelig a arestiwyd am eu rhan yng Ngwrthryfel y Pasg ym 1916. Yno, tu ôl i weiren bigog y gwersyll carchar, ymunodd aelodau'r Republican Brotherhood a'r Irish Volunteer Army i ffurfio'r Irish Republican Army.

Byddai'r amser a dreuliodd y gwrthryfelwyr yn Fron-goch yn ganolog i hanes gwladwriaeth fodern Iwerddon, wrth i nifer o ffigyrau amlwg, megis Michael Collins, gael cyfle i ddylanwadu ar garcharorion o'r un anian o bob rhan o Iwerddon. Bu Fron-goch yn “brifysgol chwyldro” ac yn gatalydd ar gyfer rhyfel annibyniaeth Iwerddon yn 1919.