Dr Marian Gwyn

Wales and Slavery - Re-Knowing and Re-Telling

Mae cydnabod rhan Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd yn codi cwestiynau sylfaenol yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol. Ers amser maith straeon am y tywysogion, am werin gwlad ac am ymdrechion y dosbarth gweithiol am gyfiawnder sydd wedi cael y lle blaenaf wrth gyflwyno hanes Cymru.  Ond yn y ddeunawfed ganrif nid rhyw gilfach ramantaidd ar gyrion Prydain oedd Cymru - yn hytrach, chwaraeodd ran allweddol yn ymgyrchoedd rheibus yr Ymerodraeth Brydeinig i ennill cyfoeth a bri economaidd, a hynny ar gost ddynol eithriadol uchel.  Mae Cymru bellach wedi cychwyn ar y daith o ddatgelu’r gwirioneddau hyn, gan sylweddoli eu bod yn rhan annatod o'i gorffennol amrywiol.

Bywgraffiad

Mae Marian Gwyn yn ymgynghorydd treftadaeth, ymchwilydd, awdur ac addysgwr.Mae ei diddordebau a'i harbenigedd yn cwmpasu ystod eang o arbenigeddau sy’n ffrwyth blynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant treftadaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Enillodd Marian ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn archwilio'r heriau sy'n wynebu sefydliadau treftadaeth wrth gydnabod cysylltiadau eu hasedau a'u harteffactau ag erchylltra trefedigaethol.

Ar hyn o bryd mae hi'n cynghori ar broject Colonial Countryside Prifysgol Caerlŷr, menter a arweinir gan blant sy'n edrych ar blastai a chaethwasiaeth. Yn ogystal, mae'n cynghori ar broject Trawsnewid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n ail-ddehongli Castell Penrhyn, eiddo a adeiladwyd ar sail cyfoeth enfawr a wnaed drwy gaethwasiaeth.  Hi yw Pennaeth Treftadaeth Race Council Cymru, sefydliad sy'n ymroi i gefnogi cymunedau amrywiol Cymru.

Ei nod yw annog ymdriniaeth gyhoeddus ag agweddau ar hanes sy'n anodd eu derbyn, ac mae'n siarad ac addysgu ar faterion yn ymwneud â Chymru a chaethwasiaeth.  Mae ei chyhoeddiadau'n cynnwys Memorialisation and Trauma – Britain and the Slave Trade, Wales and the Memorialisation of Slavery, ac Enslaved Women – Welsh Slave Masters. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu llyfr ar y planhigfeydd siwgr a oedd gan deulu Pennant Castell Penrhyn yn Jamaica.