Yr Athro Nathan Abrams
By Royal Appointment: The Jews of North Wales
Cyrhaeddodd Iddewon Ogledd Cymru 'trwy apwyntiad brenhinol' o dan nawdd Edward I a'i raglen adeiladu cestyll. Fodd bynnag, cawsant eu gyrru o'r wlad yn fuan wedi hynny a dim ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daethant yn ôl. Gwelwyd hanes yn ei ailadrodd ei hun fel petae, gydag ambell un o'r rhai a ddychwelodd yn ennill y teitl 'trwy apwyntiad brenhinol' o ganlyniad i lwyddiannau mentrau busnes fel un y gemyddion Wartski. Bydd y sgwrs hon yn olrhain taith ac effaith Iddewon Gogledd Cymru.
Bywgraffiad
Yn ogystal â bod yn Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Nathan Abrams yw Cyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n darlithio, ysgrifennu a darlledu'n eang (yn Saesneg a Chymraeg) ar hanes Iddewig ymhlith pynciau eraill. Ar hyn o bryd mae'n cyfarwyddo'r project Cerdded trwy Hanes Iddewig sy'n cynnwys map Hanes yr Iddewon ym Mangor, ap ac arddangosfa sydd bellach wedi'i hymestyn i Landudno.