Richard Suggett

Witches in Wales

Bydd y sgwrs hon yn trafod hanes cythryblus erlyniadau am wrachyddiaeth yng Nghymru’r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae llawer o gwestiynau y gellir eu hateb erbyn hyn: Pwy oedd yn cael eu drwgdybio o fod yn wrachod? Beth oedd y cyhuddiadau yn eu herbyn? Pwy oedd yn eu cyhuddo? Beth ddigwyddodd i'r rhai a ddrwgdybiwyd? Bydd archif mawreddog y Llyfrgell Genedlaethol o Lys y Sesiwn Fawr yn sylfaen i'r sgwrs hon ar noson Calan Gaeaf. Mae'r dystiolaeth bellach wedi ei chyhoeddi mewn llyfr newydd gan Richard Suggett: Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from Sixteenth- and Seventeenth-century Wales (Atramentous Press, 2018).

Bywgraffiad

Mae Richard Suggett yn hanesydd ac ar hyn o bryd yn uwch ymchwilydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn Gymrawd Anrhydeddus Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Ef yw awdur A History of Magic and Witchcraft in Wales (2005) yn ogystal ag astudiaethau ar bensaernïaeth a hanes cymdeithasol Cymru yn y canol-oesoedd ac yn fwy diweddar.