Yr Athro Emeritws Syr Thomas Devine
Bywgraffiad
Mae Tom Devine yn Athro Emeritws Syr William Fraser am Hanes a Phaleograffeg yr Alban ym Mhrifysgol Caeredin, sef y gadair athro hynaf a phwysicaf yn y maes. Mae hefyd wedi dal cadeiriau athro yn Aberdeen ac Ystrad Clud, lle'r oedd hefyd yn Ddirprwy Bennaeth yn y 1990au.
Mae'n awdur neu'n olygydd dros ddeugain o lyfrau, gyda nifer ohonynt yn boblogaidd yn rhyngwladol, yn enwedig The Scottish Nation sydd wedi gwerthu dros 100,000 o gopïau hyd yma yn y DU yn unig, ac am gyfnod roedd hyn yn oed wedi gwerthu mwy nag anturiaethau Harry Potter yn yr Alban pan gafodd ei gyhoeddi gyntaf!
Cyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, The Scottish Clearances: A History of the Dispossessed 1600-1900 (Allen Lane: The Penguin Press), y llynedd a chafodd adolygiadau canmoliaethus yn y wasg yn y DU.
Mae gan yr Athro Devine broffil uchel yn y cyfryngau ac mae'n cyfrannu'n rheolaidd at bapurau newydd, cyfryngau cymdeithasol, cyfnodolion, radio a theledu yn y wlad hon a thramor.
Mae wedi derbyn nifer o wobrau, graddau anrhydeddus ac anrhydeddau yn ystod ei yrfa. Yn fwyaf nodedig yn 2001, ynghyd ag enillydd y Wobr Nobel, y diweddar Syr James Black OM, dyfeisiwr beta atalyddion, enillodd y Fedal Aur Frenhinol, sef prif anrhydedd academaidd yr Alban, gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar argymhelliad Cymdeithas Frenhinol Caeredin. Yn 2014 cafodd ei urddo'n farchog 'am wasanaethau i astudiaethau am hanes yr Alban', yr hanesydd cyntaf yn yr Alban i ennill yr anrhydedd. Yr haf diwethaf, rhoddwyd y Wobr Cyflawniad Oes iddo gan Cydbwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ar Hanes ac Archifau.
Syr Tom yw'r unig ysgolhaig dyniaethau yn y DU sydd wedi cael ei ethol i bob un o'r tair academi genedlaethol yn Ynysoedd Prydain y mae'n gymwys iddynt: Cymdeithas Frenhinol Caeredin (FRSE), Academi Frenhinol Iwerddon (HonMRIA) a'r Academi Brydeinig (FBA).
Nododd The Times Scotland yn 2013 mai 'Tom Devine yw'r agosaf sydd gan y genedl at fardd cenedlaethol' a dywedodd y Scottish Field, ym Medi 2014, 'Syr Tom Devine yw seren roc haneswyr Caledonia.'