Trevor Fishlock
The Power of Duty: War and Peace and the Davies sisters of Wales
Stori deimladwy am gariad a dewrder. Credai'r chwiorydd Davies o Landinam, a oedd yn swil a chyfoethog, mewn grym harddwch. Gwnaethant gyfrannu eu cyfoeth yn hael at elusennau a cherddoriaeth. Buont yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc. Gwnaethant greu casgliad hudolus o waith celf, sef eu rhodd barhaus o oleuni i bobl Cymru.
Bywgraffiad
Mae Trevor Fishlock wedi teithio'r byd fel gohebydd tramor. Dechreuodd ar ei yrfa gyda Stryd y Fflyd yn gohebu yng Nghymru ar ran The Times. Bu hefyd yn ohebydd staff yn India ac Efrog Newydd. Yn ddiweddarach bu'n ohebydd ym Moscow i'r Daily Telegraph.
Enillodd wobr David Holden am ei waith fel gohebydd tramor a'r wobr Gohebydd Rhyngwladol y Flwyddyn. Enillodd BAFTA am ei raglenni teledu am hanes a bywyd yng Nghymru.
Mae wedi ysgrifennu llyfrau ar Gymru, India, Rwsia, America a fforio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ei lyfr diweddaraf, Reporter, yn adrodd hanes ei fywyd anturus. Mae'n byw yng Nghymru.